Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Chwefror 2020
Amser:
09.30 -
11.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5976
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Martin Woodford, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Jason Killens, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Claire Roche, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Dr Brendan Lloyd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Evan Jones (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
2.2 Dywedodd cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod penderfyniadau ar y cyd ynghylch dargyfeirio ambiwlansys yn cael eu gwneud gyda thimau o fyrddau iechyd lleol. Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am y timau hyn.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd, a chytunwyd i ysgrifennu at yr Ymddiriedolaeth yn gofyn am eglurhad o nifer o bwyntiau.